Croeso i wefan Cyngor Cymuned Betws-y-Coed.
Mae’r Cyngor Cymuned yn gwasanaethu cymuned o tua 460 o drigolion (2021) yn cynnwys 8 Cynghorydd sy’n cyfarfod ar yr ail ddydd Llun o bob mis ac eithrio mis Awst pan na chynhelir cyfarfod. Mae hefyd yn rheoli Rhaeadr Ewynnol (atyniad i ymwelwyr), Cae Llan a Neuadd Goffa Betws y Coed.
Mae’r wefan yn cynnwys ystod o wybodaeth am sut mae’r Cyngor yn cynnal ei fusnes a beth mae’n ei wneud. Defnyddiwch y chwiliad neu porwch y wefan i ddod o hyd i wybodaeth. Os na allwch ddod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch, cysylltwch â’r Clerc.